Cardiff Pride: Queers Take the Streets | Pride Caerdydd: Cwiariaid yn Meddu’r Strydoedd

On the 26th of August queer antifascists took to the streets of Cardiff. They and other LGBTQIA+ workers joined the IWW’s Radical Block at Pride, marching in the spirit of the Stonewall Riots and in solidarity with the Glasgow Five. Police attempted to remove placards, send the Block to the back and then stop it entirely, but the group marched on and held its place in the parade. Its presence was made clear, in banners, attitude and chants of “No Pride in police!”, “Free the Glasgow Five!”, and “These queers bash back!”. Despite IWW Cymru having an official place in the parade, at the end of the route further police reinforcements attempted to move the Block to a designated pen, apparently threatening a Section 14. Finished with marching, the Block ignored the police and left as a group for the park. There they enjoyed the Queer Picnic, a radical, inclusive, non-corporate alternative to Pride Cymru.

Pride belongs to the dispossesed, not the bosses, the police and those who would grind us into silence. These queers aren’t backing down.

If you have a communique for Angry Queer Antifascists to publish, contact us.

Ar yr 26ain o Awst meddiannwyd strydoedd Caerdydd gan gwrthffasgiaid cwiâr. Ymunon nhw gyda gweithwyr LHDTC+ eraill yn Bloc Radical yr IWW yn Pride, i fartsio yn ysbryd Terfysgoedd Stonewall ac mewn unoliaeth â’r Glasgow Five. Ceisiodd yr heddlu ddwyn placardiau, anfon y Bloc i’r cefn ac yna ei atal yn llwyr, ond martsiodd y Bloc ymlaen gan ddal ei le yn y parêd. Gwnaed ei bresenoldeb yn amlwg, trwy ei faneri, ymddygiad a bloeddiadau o “No Pride in police!”, “Free the Glasgow Five!” a “These queers bash back!”. Er bod gan IWW Cymru lle swyddogol yn y parêd, ar ddiwedd y llwybr ceisiodd mwy o heddlu symud y Bloc i gorlan benodol, gan fygwth Section 14 yn ôl pob sôn. Wedi cwpla martsio, anwybyddodd y Bloc yr heddlu gan adael fel grŵp i’r parc. Yna, wnaethon nhw joio’r Queer Picnic, cynulliad radical, cynhwysol, di-gorfforaethol sy’n ddigwyddiad amgen yn lle Pride Cymru.

Yr orthrymedig sy’n meddu Pride, nid y bosys, yr heddlu a’r rhai sy’n ceisio ein malu’n fan ddarnau. Ma’r cwiariaid ‘ma’n dal eu tir.

Os oes gennych chi communique i’r wefan Gwrthffasgiaid Cwiâr a Grac cyhoeddi, cysylltwch.